Mae'r Ganolfan i Wella Dysgu ac Addysgu yn gweithio gyda Chyfadrannau a Gwasanaethau Cymorth ar gefnogi, datblygu a chydnabod staff a myfyrwyr fel ymarferwyr, ymchwilwyr, arweinwyr a datblygwyr addysgol.
Hoffech chi i rywun o CELT eich helpu gyda phrosiect, rhoi cyngor ar gwricwlwm newydd neu sefydlu DPP pwrpasol?
Yn hwyrach y mis hwn mae CELT yn cyflwyno system brysbennu a fydd yn ei gwneud yn ofynnol i bobl sydd am gael mynediad at wasanaethau CELT (y tu hwnt i ymholiadau TEL, gweithdai [email protected] a gynlluniwyd, a PgCLTHE parhaus) gwblhau ffurflen fer yn nodi'r hyn y gofynnir amdano, pam ac erbyn pryd.
Nod y system brysbennu yw
sicrhau fod ehangder ceisiadau CELT yn weladwy, gan alluogi blaenoriaethu o
fewn yr adnoddau sydd ar gael a chefnogi lles parhaus y tîm.
Llenwi'r y Ffurflen Gais am Gymorth gan CELT i ddechrau y proses brysbennu.
Mae CELT wedi datblygu ffeithlun i ddangos sut y gall weithio gyda chi, eich Cyfadran a Gwasanaethau Proffesiynol i gefnogi, rhannu a thyfu ein gwaith rhagorol yma ym Mhrifysgol De Cymru.
(ar y gweill)
Cliciwch y delwedd i weld y maint lawn, neu llwythwch fersiwn Cymraeg o'r ffeithlun lawr (PDF).
Cysylltwch â ni i gael rhagor o wybodaeth neu ewch i MyInformation.