Mae'r Ganolfan i Wella Dysgu ac Addysgu yn gweithio i ddarparu cymorth i staff yn y Brifysgol a'i cholegau partner i wella'r addysgu a'r dysgu. Rydyn ni'n gweithio i ddatblygu seminarau, mini-gynadleddau, fforymau trafod lle gallwch rannu eich syniadau a'ch ymarferion a rhwydweithio ag eraill i astudio, beirniadu ac ymgorffori syniadau mewn cyd-destunau newydd. Rydyn ni hefyd yn ceisio atgyfnerthu amlygrwydd Ymchwil Addysgeg yn y Brifysgol a thu allan iddi drwy sefydlu gweithdai ac encilion ysgrifennu i archwilio cyfleoedd, dulliau a damcaniaethau addysgeg.
Rydyn ni bob amser yn awyddus i dderbyn cynigion gan staff sydd am gynnal seminar, awgrymiadau ar gyfer seminarau yr hoffen nhw eu cynnal neu seminarau penodol i'r Gyfadran yr hoffen nhw eu gweld.