Technoleg glyweledol newydd sydd wedi'i gosod mewn 1/3 o ystafelloedd ar draws PDC ac sydd â'r potensial i gynnig profiad cydweithredol wedi'i gyfoethogi i fyfyrwyr yw Wolfvision.
Bydd y dudalen hon yn esbonio beth sy'n newydd yn yr ystafelloedd, beth fydd ei angen arnoch chi, a sut i ddefnyddio'r cyfarpar clyweledol newydd gam wrth gam.
Cysylltwch â Desg Gymorth TG +44(0) 1443 482882:
Cyn i chi fynd i mewn i'ch ystafell addysgu, argymhellir eich bod yn gwneud y canlynol:
Mae'r gefnogaeth a hyfforddiant ar gyfer staff i ddod yn gyfarwydd â system Wolfvision Hyflex wedi symud o sail 'galw heibio' i sesiynau 1 awr sy'n cael eu cynnal bob wythnos ar bob lleoliad campws. Maent bellach ar gael trwy iTrent. Rhaid archebu'r cyfleoedd hyfforddi hyn ymlaen llaw felly nodwch: os na chyrhaeddir y nifer lleiaf o gyfranogwyr 24 awr cyn yr amser a drefnwyd, bydd yr hyfforddiant yn cael ei ganslo.