Defnyddir profion (a gaiff eu galw'n gwisiau weithiau) ac arolygon i fesur gwybodaeth myfyrwyr, mesur cynnydd, a chasglu gwybodaeth gan fyfyrwyr. Gallwch neilltuo pwyntiau a rhoi adborth ar gwestiynau'r prawf ond ni chaiff arolygon eu sgorio. Mae canlyniadau arolwg yn ddienw, ond gallwch weld a yw myfyriwr wedi llenwi'r arolwg a gweld cyfanswm cyfanredol ar gyfer pob cwestiwn yn yr arolwg. Mae gan Blackboard 17 arddull cwestiwn gwahanol, felly mae digon i ddewis ohonyn nhw.
Mae Blackboard yn cynnig canllawiau cam wrth gam ar gyfer creu a defnyddio arolygon a phrofion. Gallwch hefyd wylio fideo byr sy'n dangos y broses i chi.
Cliciwch ar y dolenni isod i weld canllawiau Blackboard:
Ar ôl i chi greu prawf neu arolwg efallai y byddwch am ei olygu. Nid oes modd golygu profion nac arolygon sydd eisoes wedi derbyn ymatebion. Cliciwch ar y dolenni isod i weld canllawiau Blackboard: