Beth yw Blackboard Ally?
Mae Ally yn offeryn hygyrchedd sydd ar gael yn Blackboard. Mae'n gallu gwneud tri pheth:
- Rhoi sgôr hygyrchedd i unrhyw ddogfen a lanlwythwyd i Blackboard;
- Rhoi arweiniad ar sut i wella hygyrchedd dogfennau a lanlwythwyd i Blackboard;
- Galluogi myfyrwyr (a chi) i lawrlwytho dogfennau mewn fformatau gwahanol. Y fformatau yw:
- OCRed PDF (ar gyfer ffeiliau PDF wedi'u sganio)
- HTML (ar gyfer porwr gwe neu ddyfeisiau symudol)
- ePub (darllen fel e-lyfr)
- Braille electronig (fersiwn BRF ar gyfer dyfeisiau arddangos Braille electronig)
- Sain (MP3 ar gyfer gwrando)
- Fersiwn wedi'i gyfieithu (cyfieithu peirianyddol i 50 o ieithoedd gwahanol)
Bydd gwneud eich dogfennau'n fwy hygyrch yn eu gwella ar gyfer myfyrwyr a bydd yn cynyddu ansawdd y fformatau amgen sy'n cael eu cynhyrchu.
Gwyliwch y fideo hwn am hygyrchedd ffeiliau a sut i'w wella gan ddefnyddio Ally.
Beth fydd myfyrwyr yn ei weld?
Dim ond yr eicon Ally fydd myfyrwyr yn ei weld, a fydd yn caniatáu iddynt lawrlwytho fformatau amgen. Ni fyddant yn gweld sgôr hygyrchedd y dogfennau.
Dyma fideo byr y gallwch ei ddangos i fyfyrwyr i'w cyflwyno i Blackboard Ally ar eich modiwl.