Mae mudiadau cyrsiau yn ymddwyn yn yr un modd â modiwlau ac yn cynnwys offer sy'n galluogi aelodau i gyfathrebu'n effeithlon.
Mae pob mudiad cwrs yn cynnig mynediad i fyfyrwyr at yr holl wybodaeth berthnasol am y cwrs gan gynnwys gwybodaeth am y modiwlau sy'n rhan o'r cwrs a dolenni at y data cyfatebol sy'n cael ei gadw ar y System Gwybodaeth Cwricwlwm Integredig. Bydd myfyrwyr hefyd yn gallu gweld manylion cyswllt staff tîm y cwrs a chynrychiolwyr myfyrwyr y cwrs. Bydd modd iddyn nhw weld enwau'r arholwyr allanol a gwybodaeth ddefnyddiol arall, gan gynnwys llawlyfr y cwrs. Ddwywaith y flwyddyn, bydd arolwg gwerthuso'r cwrs yn cael ei ddarparu i fyfyrwyr drwy fudiad y cwrs hefyd.