Mae portffolios yn fodd o gasglu, trefnu a chyhoeddi darnau o waith dros gyfnod o amser. Gall fod diben cyffredinol ganddyn nhw neu gellir eu defnyddio i arddangos cyflawniad.
Ym Mhrifysgol De Cymru, rydyn ni wedi galluogi teclyn Portffolios Personol ar Blackboard ar gyfer defnyddwyr. Mae hyn yn caniatáu i ddefnyddwyr greu casgliad o 'arteffactau' y gellir eu trefnu yn un neu fwy o gasgliadau portffolio. Yna, gellir rhannu ciplun o'r portffolio gyda defnyddwyr eraill, neu gysylltiadau allanol, unrhyw bryd.
Mae portffolios yn seiliedig ar y defnyddiwr, nid ar fodiwlau neu gwrs penodol. Fodd bynnag, gellir ychwanegu dolenni at dudalen hafan portffolio defnyddiwr at fodiwl a gall defnyddwyr sefydlu portffolios ar wahân ar gyfer gwahanol ddibenion, modiwlau, aseiniadau ac ati