Blackboard
Mae deunyddiau sy'n ddigidol gynhwysol yn diwallu anghenion hygyrchedd drwy eu dyluniad a'u dull o gyflwyno.
Gan ddefnyddio Rhith-amgylchedd Dysgu'r Brifysgol, gallwch gynhyrchu cynnwys cwrs sy'n ddigidol hygyrch.
- Defnyddiwch flogiau, fforymau trafod a chyfnodolion cwrs i greu ffyrdd newydd o ennyn diddordeb myfyrwyr yng nghynnwys y cyrsiau;
- Cynhyrchwch ddeunydd ar gyfer y cwrs gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau, er enghraifft podlediadau a fideos;
- Lle bo modd, defnyddiwch e-lyfrau a gefnogir gan y llyfrgell mewn rhestri darllen er mwyn cynyddu mynediad i fyfyrwyr.
Blackboard Ally
Mae Ally yn offeryn hygyrchedd sydd ar gael yn Blackboard. Mae'n gallu gwneud tri pheth:
- Rhoi sgôr hygyrchedd i unrhyw ddogfen a lanlwythwyd i Blackboard;
- Rhoi arweiniad ar sut i wella hygyrchedd dogfennau a lanlwythwyd i Blackboard;
- Galluogi myfyrwyr (a chi) i lawrlwytho dogfennau mewn fformatau gwahanol. Y fformatau yw.
Panopto
Drwy ddefnyddio teclyn cipio darlithoedd y Brifysgol, gallwch recordio darlithoedd tra byddwch yn eu traddodi. Gallwch hefyd ddefnyddio'r recordydd bwrdd gwaith i wneud fideos neu gyflwyniadau llais ar unrhyw adeg sy'n addas i chi. Bydd y feddalwedd hefyd yn caniatáu i chi ffrydio eich hun yn fyw. Mae defnyddio Panopto yn golygu:
- Bod myfyrwyr nad ydyn nhw'n gallu cael mynediad i'r gofod dysgu ffisegol yn gallu bod yn bresennol mewn darlithoedd a gweld deunydd darlithoedd mewn lleoliad gwahanol;
- Bod myfyrwyr sydd ar gyrsiau dysgu cyfunol neu ddysgu o bell yn gallu gweld darlithoedd o ble bynnag maen nhw ac ar amser sy'n addas iddyn nhw;
- Bod modd rhyngweithio â myfyrwyr drwy'r teclynnau gadael sylwadau a thrafod yn Panopto;
- Bod modd i fyfyrwyr sy'n ffafrio dysgu drwy wylio fideos ddefnyddio'r recordiadau o'r darlithoedd i adolygu'n fwy effeithiol;
- Bod modd i fyfyrwyr anabl sy'n wynebu anawsterau mewn sefyllfaoedd darlithio - o ganlyniad i nam ar y synhwyrau, anawsterau dysgu penodol, problemau'n ymwneud â phrosesu a chofio, anawsterau cymdeithasol a chyfathrebu a phryderon iechyd meddwl - gymryd rhan.
Office 365
Mae canllawiau defnyddiol ar sut i greu dogfennau hygyrch wedi'u cynhyrchu gan Microsoft.
Ar bob un o raglenni Office 365 gallwch ddefnyddio'r Gwirydd Hygyrchedd i ddod o hyd i broblemau hygyrchedd.
Sensus Access
Mae Sensus Access yn darparu Technoleg Cynhwysiant sy'n caniatáu i fyfyrwyr a staff drosi dogfennau i ystod o gyfryngau amgen eraill yn awtomatig, gan gynnwys llyfrau sain, e-lyfrau a Braille digidol. Mae modd defnyddio'r gwasanaeth hefyd i drosi dogfennau anhygyrch, fel ffeiliau PDF sy'n ddelweddau yn unig, lluniau JPG a chyflwyniadau Microsoft PowerPoint yn fformatau mwy hygyrch a haws.
Cynghorion ar gyfer creu adnoddau sy'n ddigidol hygyrch
- Defnyddiwch ganllawiau arferion gorau ar gyfer creu dogfennau cynhwysol wrth eu creu o'r newydd.
- Defnyddiwch offeryn lanlwytho Blackboard i wirio a chywiro cynwysoldeb hen ddogfennau.
- Nodwch ddogfennau anaddas a gweithiwch gyda'r llyfrgell i ddod o hyd i ddewisiadau amgen cynhwysol.
- Defnyddiwch adnoddau sydd ar gael yn rhwydd/adnoddau ar-lein ar gyfer testunau craidd.
- Cynhyrchwch ddeunydd ar gyfer y cyrsiau gan ddefnyddio amrywiaeth o gyfryngau.
- Trefnwch gynllun ac ymddangosiad modiwlau Blackboard fel eu bod yn gyson ar draws y cyrsiau.
- Ymgorfforwch hygyrchedd wrth gynllunio.
Dolenni defnyddiol: