Os ydych yn recordio darlithoedd neu ddigwyddiadau byw lle mae myfyrwyr yn bresennol, bydd angen i chi wneud yn siŵr eu bod yn ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd a sut y bydd y recordiad yn cael ei ddefnyddio. Os ydych yn recordio darlithoedd i fyfyrwyr presennol (a'r dyfodol) i'w defnyddio yn unig, yna mae'r recordiad yn cael ei wneud er budd cyfreithlon dysgu ac addysgu. Fodd bynnag, mae gan fyfyrwyr hawl i wrthod cael eu recordio neu i ofyn am gael eu tynnu oddi ar recordiad os oes modd eu hadnabod.
Cyn y ddarlith
Os ydych chi'n defnyddio Panopto i gipio unrhyw ddarlithoedd, dylech ddarparu'r hysbysiad canlynol yn eich modiwl:
Ynghylch recordio darlithoedd: Gellir recordio'r darlithoedd ar y modiwl hwn ar ffurf fideo neu sain. Gellir defnyddio'r recordiadau yma at ddibenion dysgu ac addysgu ar gyfer myfyrwyr presennol a myfyrwyr yn y dyfodol. Os nad ydych yn dymuno cael eich recordio, rhowch wybod i'r darlithydd.
Yn ystod y ddarlith
Gwnewch yn siŵr bod myfyrwyr yn ymwybodol eich bod yn recordio drwy:
- Ddweud wrthyn nhw ei fod yn digwydd bob tro y byddwch chi'n recordio.
- Defnyddio sleid ar ddechrau pob darlith gydag ymwadiad am recordiadau.
- Edrychwch ar y Sleid Sampl sydd ar gael.
Esbonio beth fyddwch chi'n ei recordio (hynny yw, sain neu fideo). Pan fyddwch chi'n recordio gyda grŵp newydd o fyfyrwyr, efallai yr hoffech roi gwybodaeth ychwanegol iddyn nhw, fel:
- Os yw camera'n cael ei ddefnyddio i gipio fideo, dangoswch yn glir pa ardaloedd sy'n cael eu ffilmio.
- Esboniwch y gall meicroffonau gipio unrhyw sŵn a sgyrsiau achlysurol, felly cynghorwch nhw i osgoi trafod pynciau personol pan fydd recordio'n digwydd.
Os nad ydyn nhw am gael eu recordio ar fideo:
- Rhowch wybod i fyfyrwyr ble mae modd iddyn nhw eistedd os nad ydyn nhw am fod ar y camera. Yn y rhan fwyaf o ystafelloedd dosbarth nid yw'r rhan fwyaf o ddesgiau myfyrwyr yn yr ardal lle mae gwe-gamerâu wedi'u gosod ymlaen llaw, ond dylech wirio'r fideo i fod yn siŵ.
Os nad ydyn nhw am i'w lleisiau gael eu recordio (hynny yw, wrth ofyn cwestiynau neu yn ystod trafodaethau):
- Mae modd rhewi recordiadau a'u hail-ddechrau yn ôl yr angen.
- Neu, rhowch gyfle i fyfyrwyr ofyn cwestiynau drwy eu hysgrifennu ar bapur neu drwy ddefnyddio Vevox, sef ein hofferyn ymateb cynulleidfa ar-lein.
Ar ôl y ddarlith
Os oes angen, gellir golygu recordiadau i ddileu adrannau penodol.