Mae’r hwb adnoddau hwn yn cynnwys y pethau sylfaenol sydd eu hangen arnoch chi i ddechrau arni gyda systemau dysgu PDC ac mae’n darparu rhywfaint o gyd-destun ar gyfer y dull addysg wedi’i galluogi’n ddigidol ym Mhrifysgol De Cymru.
Rydyn ni’n argymell eich bod yn ymgyfarwyddo â’r canllawiau sydd wedi’u cynnwys ar gyfer y maes hwn o fewn y tri mis cyntaf ar ôl dechrau ym Mhrifysgol De Cymru. Does dim angen i chi wybod yr holl wybodaeth hon ar unwaith ond dylech gyfeirio at y Cymorth Brys os oes angen cymorth arnoch chi yn syth.
Os oes angen unrhyw gymorth pellach arnoch gyda'r uchod neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am dechnoleg ar gyfer addysgu, dysgu ac asesu, cysylltwch â’r tîm Addysg wedi’i Galluogi’n Ddigidol. Gall y tîm roi arweiniad ar sut gellir defnyddio technoleg i wella a chefnogi dysgu ac addysgu mewn ffyrdd amrywiol, fel dylunio eich modiwl ar y Rhith-amgylchedd Dysgu, sut i gyflwyno aseiniadau a gweithgareddau digidol cynhwysol ar-lein, annog dysgu gweithredol ymysg myfyrwyr, teclynnau pleidleisio, technolegau ystafell ddosbarth, recordio darlithoedd neu adnoddau ar-lein, a mwy.
Mae rhestr o ddolenni ac adnoddau defnyddiol y cyfeiriwyd atyn nhw ar y tudalennau hyn wedi'i darparu isod er hwylustod.