Mae Vevox yn offeryn ymateb sy'n caniatáu i "gyflwynwyr" ryngweithio â myfyrwyr a chynulleidfaoedd eraill drwy arolygon, ymatebion testun, neu gwestiynau amlddewis sy'n cael eu harddangos drwy eu dyfeisiau symudol (iPad, gliniadur, cyfrifiadur pen desg, ffôn symudol). Yr enw ar sesiynau Vevox yw "cyfarfodydd" a gallan nhw gasglu ymatebion gan hyd at 500 o gyfranogwyr.
Sut i gael cyfrif/manylion mewngofnodi
Mae Vevox yn galluogi cael adborth ar y pryd gan eich myfyrwyr a gellir ei ddefnyddio i wella ymgysylltiad a chyfranogiad mewn darlithoedd wyneb yn wyneb. Mae defnyddio Vevox yn hwyluso trafodaeth ac yn galluogi pob myfyriwr i gymryd rhan weithredol yn eu dysgu h.y. mae'n offeryn cynhwysol. Mae enghreifftiau o sut y gellir defnyddio Vevox yn cynnwys:
Mae rhagor o wybodaeth am Vevox ar eu tudalennau Cyflwyniad i Vevox.
Sylwer: Oherwydd bod angen ychwanegu Cofrestru Untro at eich cyfrif Vevox, ni fyddwch yn gallu creu cyfrif PDC yn uniongyrchol. I gofrestru am gyfrif Vevox, anfonwch e-bost at Carl Sykes.
Mae'r canllawiau canlynol, a llawer mwy, ar gael o dudalennau cymorth Vevox ac ar Sianel YouTube Vevox: