30-06-2022 at 1pm to 30-06-2022 at 2pm
Lleoliad: arlein
Gynulleidfa: Public
Ymuno https://ce0091li.webitrent.com/ce0091li_ess/ess/dist/#/main/learning/courses/activity/094757C5aa
O dan arweiniad Jose Lopez Blanco a
Gill Edwardes (Gwasanaethau Llyfrgell PDC)
Mae’r Gwasanaethau Llyfrgell wedi bod yn gweithio gyda myfyrwyr sy’n gwirfoddoli i greu cyfres o arddangosfeydd yn seiliedig ar gasgliadau llyfrgelloedd Prifysgol De Cymru sy’n dathlu amrywiaeth ac yn amlygu meysydd lle gellir datblygu casgliadau llyfrgell i fod yn fwy cynhwysol a chynrychioliadol. Yn y gweithdy yma byddwn yn myfyrio ar yr hyn rydyn ni i gyd, yn staff y llyfrgell a myfyrwyr, wedi’i ddysgu o’r prosiect a’r effaith mae wedi’i chael ar wella amrywiaeth casgliadau llyfrgelloedd Prifysgol De Cymru. Prosiect peilot oedd hwn eleni, a byddwn yn defnyddio’r gwersi a ddysgwyd i gynnal y prosiect yn llwyddiannus yn flynyddol yn y dyfodol.