Mae amrywiaeth o strategaethau, polisïau a phrosesau Prifysgol De Cymru sy'n ymwneud â dysgu, addysgu ac asesu yn llywio, yn ategu ac yn cysylltu â gwaith CELT (yn ogystal â pholisïau ehangach). Mae'r dudalen yma'n nodi sut rydyn ni'n rhyngweithio â phob un o'r polisïau, yn ogystal â darparu dolenni at y polisïau eu hunain.
Mae Prifysgol De Cymru wedi mabwysiadu Model Llwyth Gwaith a fydd yn darparu fframwaith teg, tryloyw ac effeithiol ar gyfer dyrannu a dosbarthu llwythi gwaith academaidd ar draws y Brifysgol a Choleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru ar gyfer pob aelod o staff ar gontractau addysg uwch.
Mae'r ddogfen yma a'r wybodaeth ategol wrthi'n cael eu hadolygu. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]
Bwriad cyfrifoldebau dangosol Arweinydd Cwrs yw rhoi syniad i staff academaidd sydd yn arwain cwrs fel rhain o’u rôl o’r math o gyfrifoldebau cysylltiedig a lefel y cyfrifoldebau hynny.
Bwriad cyfrifoldebau dangosol Arweinydd Modiwl yw rhoi syniad i staff academaidd sydd yn arwain modiwl fel rhain o’u rôl o’r math o gyfrifoldebau cysylltiedig a lefel y cyfrifoldebau hynny.
Nodwch: Mae angen bod llawlyfr Cymraeg ar gael i bob myfyriwr sydd wedi gofyn am ohebiaeth yn Gymraeg (maer rhestr ar gael ar Quercus) a phob myfyriwr syn astudio yn Gymraeg. Gall unrhyw fyfyriwr arall hefyd wneud cais am gopi or llawlyfr yn Gymraeg neu Saesneg waeth beth maen nhwn ei astudio. Bydd angen cyfieithu unrhyw destun ychwanegol a gynhyrchir gan y cyfadrannau yn unol â hynny.
Mae'r ddogfen yma a'r wybodaeth ategol wrthi'n cael eu hadolygu. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]
https://thehub.southwales.ac.uk/Interact/Pages/Content/Document.aspx?id=3184#MenusideMenu_MenuArea_3855
Gallwch chi’n nawr ffeindio pob gwybodaeth ar asesiadau ar ein wefan Hwb Cylch Bywyd Asesiadau ni (Staff PDC yn unig).
Os ydych chi ddim aelod o staff PDC, gallwch chi’n ebostiau [email protected] am gwybodaeth ychwanegol ar ein Cylch Bywyd Asesiadau.
Mae'r Brifysgol yn disgwyl i bob aelod o staff wneud defnydd priodol o'r Rhith-amgylchedd Dysgu. Mae'r canlynol yn nodi disgwyliadau'r Brifysgol o ran yr isafswm o wybodaeth y dylid ei chynnwys i fyfyrwyr ar gyfer eu y cwrs a'r modiwlau.
Rhith-amgylchedd Dysgu Disgwyliadau Sylfaenol ar gyfer y Cwrs a'r Modiwl
Mae’r canllaw hwn wedi’i gynllunio gan gyfeirio’n benodol at Fframwaith Dysgu Gweithredol wedi'i Alluogi'n Ddigidol (DEAL) a’r Hysbysiad Preifatrwydd – Recordio Gweithgareddau Addysgol.
Y technolegau y cyfeirir atynt yn benodol yw’r rhai a ddefnyddir ar gyfer recordio sgrin neu recordio yn y dosbarth (e.e. Panopto) a theclynnau cydweithio rhithwir (e.e. MS Teams, Blackboard Collaborate). Fodd bynnag, mae'r canllawiau hefyd yn berthnasol i unrhyw dechnoleg sydd â thrwydded Prifysgol De Cymru sy'n cefnogi'r swyddogaethau hyn ar gyfer dysgu, addysgu ac asesu.
Dadlwythwch y canllaw hwn fel dogfen
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2016/17, mae'r Brifysgol yn datblygu dull newydd o werthuso cyrsiau a modiwlau, sef Loop. Bydd y system newydd yn galluogi myfyrwyr i roi adborth ar lefel modiwl a chwrs mewn un man. Mae teclynnau'n cael eu datblygu i ganiatáu i staff (yn dibynnu ar eu rôl) redeg adroddiadau ar lefel modiwl, cwrs, ysgol a chyfadran.
Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]
Mae Prifysgol De Cymru yn credu bod nifer o fanteision o ddefnyddio meddalwedd cymdeithasol mewn dysgu ac addysgu. Mae'r ddogfen yma'n cynnig arweiniad ar y ffordd orau o'i ddefnyddio ac yn amlinellu rhai enghreifftiau o sut mae modd ei ddefnyddio.
Mae'r ddogfen yma a'r wybodaeth ategol wrthi'n cael eu hadolygu. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]
Mae'r Brifysgol yn annog myfyrwyr i ddefnyddio gliniaduron a dyfeisiau symudol wrth ddysgu, addysgu ac asesu. Mae'r canllawiau canlynol, sydd wedi cael eu cymeradwyo gan y Bwrdd Academaidd, yn cael eu darparu er mwyn i staff a myfyrwyr wneud defnydd effeithiol o'r dyfeisiau hynny mewn amgylcheddau dysgu ac addysgu ffurfiol.
Mae'r ddogfen yma a'r wybodaeth ategol wrthi'n cael eu hadolygu. Os hoffech ragor o wybodaeth, cysylltwch â ni drwy e-bost: [email protected]Mae gan y Gwasanaethau Technoleg Gwybodaeth ystod o bolisïau sy'n effeithio ar y defnydd o dechnoleg ar gyfer dysgu ac addysgu.